Senedd Cymru Papur 6
 Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
 Canfyddiadau’r arolwg
 Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
 7 Rhagfyr 2023
Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’n craffu ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Fel rhan o'i waith craffu Cyfnod 1 ar y Bil, cynhaliwyd arolwg a oedd yn canolbwyntio ar Ran 1, Penodau 2 a 3 o'r Bil – treialu a diwygio cofrestru etholiadol heb chymwysiadau ac etholiadau Cymru.

Yr arolwg

1.              Roedd yr arolwg hunanlenwi, lled-strwythuredig ar gael am pum wythnos, rhwng 23 Hydref a 26 Tachwedd 2023. Roedd yr arolwg ar gael i'w lenwi ar-lein ac ar ffurf copi caled ar gais.

2.            Gofynnwyd 13 o gwestiynau yn yr arolwg am y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â threialu a diwygio cofrestru etholiadol heb chymwysiadau ac etholiadau Cymru. Rhoddwyd gwybodaeth gefndirol i’r ymatebwyr am y trefniadau presennol a'r newidiadau arfaethedig.

Hyrwyddo

1.              Hyrwyddwyd yr arolwg drwy amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys y rhai a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

§    Sianeli cyfryngau cymdeithasol Senedd Cymru, gan gynnwys Facebook, Instagram, LinkedIn ac X (Twitter gynt). Trefnwyd hysbysebion wedi'u targedu hefyd i annog ymatebion o ardaloedd lle rydym yn tueddu i gael cyfradd ymateb is.

§    Rhwydweithiau a sianeli cyfryngau cymdeithasol rhanddeiliaid allweddol. Crëwyd pecyn cymorth cyfryngau cymdeithasol a chodau QR i alluogi rhanddeiliaid a grwpiau i rannu a hyrwyddo'r arolwg yn hawdd.

§    Pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn sesiynau Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd. Cafodd yr arolwg ei ddosbarthu hefyd i Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru.

§    Digwyddiadau gan gynnwys Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid TPAS Cymru yn Llandrindod a digwyddiad Diwrnod Plant y Byd yn Wrecsam.

Canfyddiadau

2.            Er mwyn llunio'r crynodeb hwn, cynhaliwyd dadansoddiad o’r set ddata gyflawn. Gellir priodoli'r holl ddata i ymatebion unigol a gellir dadansoddi ymhellach ar gais. Ymdrinnir â phob cwestiwn yn yr arolwg yn ei dro.

3.            Caiff y canlyniadau eu cyfrifo yn ôl y nifer a ymatebodd i'r cwestiwn penodol, yn hytrach na’r nifer a ymatebodd i'r arolwg yn gyffredinol. Cafwyd 86 o ymatebion.

4.            Sylwer, er bod yr arolwg hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar safbwyntiau'r ymatebwyr, mae'n bwysig cydnabod efallai na fydd y canfyddiadau'n gwbl gynrychioliadol o'r boblogaeth. Mae'r data'n adlewyrchu barn a phrofiadau'r unigolion a gymerodd ran yn yr arolwg, a gall fod amrywiadau ymhlith gwahanol grwpiau demograffig neu'r rhai nad oedd wedi ymateb. Fel gydag unrhyw arolwg, mae'r canlyniadau'n cynnig cipolwg ar y farn yn y grŵp sampl. Dylid bod yn ofalus wrth gyffredinoli'r canfyddiadau hyn i'r boblogaeth ehangach.

5.            Cafwyd ymatebion o bum rhanbarth y Senedd.

 

 

 

Cwestiwn 1

Swyddog Cofrestru Etholiadol sy’n gyfrifol am lunio a chynnal y gofrestr o bobl sydd â'r hawl i bleidleisio mewn etholiad, sef etholwyr.

Mae'r Bil yn caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu etholwyr cymwys at y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru heb fod angen i'r etholwr gyflwyno cais.

I ba raddau rydych chi'n cefnogi'r syniad o gofrestru etholwyr yn awtomatig?

6.            Roedd 58 y cant o’r ymatebwyr i'r cwestiwn hwn yn cefnogi’n gryf y syniad o gofrestru etholwyr yn awtomatig, gydag 28 y cant yn rhagor yn cefnogi’r syniad ychydig. Roedd 8 y cant yn gwrthwynebu’r syniad ychydig neu'n ei wrthwynebu’n gryf. Nid oedd 6 y cant yn ei gefnogi nac yn ei wrthwynebu neu gwnaethant ddewis 'Ddim yn gwybod'.

Cwestiwn 2

A allwch chi roi rhesymau dros eich ymateb? (er enghraifft, a oes rhesymau penodol pam rydych yn cefnogi neu'n gwrthwynebu'r newid arfaethedig hwn?)

7.             Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion i'r cwestiwn hwn yn gadarnhaol i raddau helaeth am y newidiadau arfaethedig. Daeth tair prif thema i'r amlwg, gyda nifer o ymatebwyr yn cyfeirio at fwy nag un thema yn eu hymateb.

8.            Mae'r canlynol yn rhoi cipolwg ar ymatebion, a oedd yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i bleidleisio.

“Dw i'n meddwl bod dyletswydd ddinesig ar bawb i bleidleisio. Mae camau sy’n cael eu cymryd i wella hygyrchedd a chael gwared ar rwystrau rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, yn enwedig ymhlith grwpiau a allai wynebu heriau unigryw, yn sicr yn gam cadarnhaol.”

“Drwy gofrestru pobl yn awtomatig i bleidleisio, rydych yn cael gwared ar rwystr yn y broses etholiadol. Efallai bydd yn annog mwy o bobl sydd wedi ymddieithrio â phleidleisio i gymryd y cam olaf i'r orsaf bleidleisio.”

“Mae digon o rwystrau sy'n atal pobl rhag pleidleisio eisoes. Mae cofrestru i bleidleisio’n un arall, felly mae’n syniad da ei wneud yn awtomatig yn fy marn i. Mae'n un peth yn llai i bobl ei wneud.”

9.            Ystyriwyd y newidiadau arfaethedig yn gatalydd posibl ar gyfer annog mwy o bobl i bleidleisio, gan rai ymatebwyr i’r cwestiwn hwn. Roedd hon yn thema amlwg arall a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion i'r cwestiwn hwn. Mae’r canlynol yn rhoi cipolwg ar yr ymatebion hynny:-

“Dw i'n meddwl y byddai'n annog pobl i bleidleisio, os ydynt wedi’u cofrestru'n awtomatig. Ac mae taer angen mwy o bleidleiswyr i bleidleisio ar gyfer etholiadau Cymru.”

“Dw i'n deall y bydd y cynnig hwn yn gwneud Cymru yn gyson â gwledydd democrataidd eraill. Mae’n rhaid bod cynyddu'r cyfle i bobl bleidleisio’n beth da.”

“Dw i'n credu y dylem fod yn annog mwy o bobl i bleidleisio a'i gwneud yn haws iddynt wneud hyn yw'r cam cyntaf.”

10.        Roedd y drydedd thema a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion yn canolbwyntio ar yr angen i symleiddio'r broses bleidleisio er mwyn gwella hygyrchedd, yn enwedig i grwpiau penodol a allai brofi heriau unigryw.

“Dw i'n cytuno â hwyluso’r broses. Efallai na fydd rhai’n llwyr ddeall y broses gofrestru i bleidleisio, a gallai hyn roi sicrwydd i’r rhai a hoffai fod ar y gofrestr eu bod arni.”

“Mae'n symleiddio'r broses ac mae’n fwy costeffeithiol.”

“Oherwydd ei bod yn llawer haws i bobl oedrannus a phobl anabl gael eu hychwanegu at restr etholwyr yn awtomatig yn lle gorfod llenwi ffurflenni cymhleth, mae'n gwneud pethau'n symlach i bawb.”

Cwestiwn 3

Beth yw’r dull gorau y gall Llywodraeth Cymru helpu pobl i ddeall y newidiadau i'r ffordd y caiff etholwyr cymwys eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru? Sgoriwch yn y drefn y byddech chi’n ei dewis.

11.           Ysgrifennu’n uniongyrchol at yr etholwr i roi gwybod iddo am y newidiadau oedd yr opsiwn a ddewiswyd amlaf yn gyntaf gan ymatebwyr i'r cwestiwn hwn (36 y cant), ac yna cyfathrebu â'r etholwr mewn rhyw ffordd arall, er enghraifft, neges destun neu e-bost (19 y cant). Dewiswyd ymgyrch gwybodaeth genedlaethol fel y dewis cyntaf ar gyfer 14 y cant o'r ymatebwyr i'r cwestiwn hwn, gyda 12 y cant o'r ymatebwyr yn dewis ymgyrch cyfryngau cymdeithasol fel eu dewis cyntaf. Cafodd ymgyrch deledu a radio ei dewis gyntaf gan 9 y cant o'r ymatebwyr, gydag 8 y cant yn dewis gweithio gyda sefydliadau fel y Comisiwn Etholiadol ac awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth fel eu dewis cyntaf.

Cwestiwn 4

Os ydych yn credu y gallai Llywodraeth Cymru helpu pobl i ddeall y newidiadau i'r ffordd y caiff etholwyr cymwys eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru mewn ffordd nad yw wedi'i rhestru yn y cwestiwn blaenorol, rhannwch eich barn â ni isod.

12.         Cafwyd 23 o ymatebion i'r cwestiwn hwn, a awgrymodd ffyrdd amgen (i'r opsiynau a amlinellwyd yng nghwestiwn 3 yr arolwg) o helpu pobl i ddeall y newidiadau i'r ffordd y caiff etholwyr cymwys eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru.

13.         Er na ddaeth prif thema i'r amlwg o'r atebion, roedd y pwnc a godwyd amlaf gan ymatebwyr i'r cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar addysg.

“Addysg orfodol mewn ysgolion.”

“Addysg i bobl ifanc yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol. Busnesau sy'n cynnig addysg broffesiynol ar gofrestru pleidleiswyr. Fideo cyfryngau cymdeithasol byr yn cynnwys Cymry enwog.”

“Ymgysylltu â'r ysgol uwchradd, dosbarthiadau chwech/colegau a phrifysgolion.”

14.         Yn dilyn hyn oedd yr angen i sicrhau bod unrhyw wybodaeth am y broses yn hygyrch i bawb.

“Ymgyrch hawdd ei deall neu o leiaf iaith glir.”

“Dosbarthu gwybodaeth hawdd ei deall.”

“Hyd yn hyn, nid yw'r broses hon wedi bod yn hygyrch i bobl ag anableddau dysgu ei deall ac ymgysylltu â hi. Mae'n bwysig darparu ymgyngoriadau a gwybodaeth am newidiadau mewn ffordd hawdd ei deall.”

Cwestiwn 5

Mae'r gofrestr lawn yn fersiwn o'r gofrestr sy'n cynnwys enw a chyfeiriad pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio, ac eithrio'r rhai sy'n cofrestru’n ddienw i bleidleisio. Rhan o’r gofrestr lawn yw’r gofrestr agored. Mae'r fersiwn hon ar gael i unrhyw un sydd am ei phrynu, fel busnesau neu elusennau. Gall unrhyw un optio allan o'r gofrestr agored.

Er mwyn sicrhau bod etholwyr ifanc a bregus yn cael eu gwarchod, ni fydd y gofrestr etholiadol agored yng Nghymru ar gael ar gyfer etholiadau Cymru.

I ba raddau rydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â thynnu’r gofrestr etholiadol agored ar gyfer etholiadau yng Nghymru?

15.         Roedd 71 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r cwestiwn hwn yn cytuno'n gryf neu’n cytuno ychydig â thynnu'r gofrestr etholiadol agored, tra bod 12 y cant yn anghytuno'n gryf neu’n anghytuno ychydig. Roedd 17 y cant ddim yn cytuno nac yn anghytuno neu wedi dewis ‘Ddim yn gwybod’.

Cwestiwn 6

A allwch chi roi rhesymau dros eich ateb? (er enghraifft, a oes rhesymau penodol pam rydych yn cytuno neu’n anghytuno â'r newid hwn?)

16.         Daeth dwy brif thema i'r amlwg o'r ymatebion i'r cwestiwn hwn; yr angen i amddiffyn grwpiau agored i niwed a’r potensial i gamddefnyddio data personol.

17.         Mae'r dyfyniadau canlynol yn rhoi cipolwg ar yr ymatebion a gyfeiriodd at yr angen i amddiffyn grwpiau agored i niwed , gyda rhai yn mynd i'r afael â'r heriau penodol y gallai rhai grwpiau ddod ar eu traws.

“Mae unrhyw gam sy'n cael ei gymryd i amddiffyn grwpiau agored i niwed yn beth da. Fel dinesydd, nid wyf yn gweld unrhyw reswm arbennig o gryf dros gadw'r gofrestr agored.”

“Mae’n gweithredu fel mesur diogelu i bobl ifanc agored i niwed a/neu bobl ifanc.”

“Mae diogelwch yn ffactor risg enfawr a dw i’n cefnogi unrhyw beth lle rydym yn lleihau'r risg i bobl agored i niwed yng Nghymru.”

“Nid yw llawer o bobl ag anableddau dysgu’n gyfforddus i’w gwybodaeth fod ar gofrestr agored a chael ei phrynu at ba ddiben bynnag, yn enwedig pan nad yw’r diben yn ymwneud â phleidleisio. Gall fod yn anodd deall y gwahaniaeth rhwng y cofrestrau llawn ac agored, a gall fod yn anodd deall optio allan hefyd. Mae tynnu’r gofrestr agored yn ymddangos yn ateb da i amddiffyn pleidleiswyr ifanc ac agored i niwed.”

18.         Roedd ymatebion a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio data personol hefyd yn gysylltiedig â phryderon ynghylch preifatrwydd unigolyn.

“Dw i'n credu bod angen codi ymwybyddiaeth pobl o'r gofrestr agored ac i ba raddau y mae eu gwybodaeth ar gael i grwpiau sy'n gallu prynu'r data hynny. Mae’r pryderon ynghylch preifatrwydd a diogelu data yn sylweddol. Mae’n hanfodol diogelu preifatrwydd ac unigolion, yn enwedig grwpiau agored i niwed. Ar ben hynny, mae’n rhaid pwyso a mesur y cydbwysedd rhwng tryloywder a phreifatrwydd yn ofalus er mwyn sicrhau bod y broses ddemocrataidd yn deg i bawb.”

“Mae'n gwneud synnwyr ar gyfer diogelu'r cyhoedd ac i atal posibilrwydd camddefnyddio data preifat.”

“Ni ddylai'r data fod ar werth.”

“Ni fyddwn am i fusnesau neu elusennau eraill wybod fy ngwybodaeth.”

19.         Mae'n bwysig nodi, er bod y rhan fwyaf o ymatebion o blaid tynnu'r gofrestr agored, roedd rhai ymatebion yn cyfeirio at yr anfanteision posibl yn gysylltiedig â thynnu'r gofrestr agored.

“Mae'r gofrestr etholiadol yn ddogfen ddefnyddiol at lawer o ddibenion dilys, gan gynnwys ymchwil ac ymgyrchu gwleidyddol. Mewn democratiaeth, dylai'r wybodaeth hon fod ar gael yn rhad ac am ddim oni bai bod pobl yn mynegi dymuniad i gael eu cofrestru'n ddienw.”

“Roeddwn dan yr argraff y gall bod ar y gofrestr agored wella eich sgôr credyd a allai, i bobl ifanc â hanes credyd cyfyngedig, roi pobl ifanc dan anfantais.”

“Mae diffyg cofrestru’n agored yn ei gwneud yn anoddach ymgyrchu - hefyd, gyda gwybodaeth leol, mae cofrestr agored yn ei gwneud yn fwy tebygol y gellir nodi a chofrestru ‘pleidleiswyr coll’.”

Cwestiwn 7

Ydych chi'n meddwl bod cael gwared ar y gofrestr etholiadol agored yn ddigon i amddiffyn etholwyr ifanc a bregus?

20.       Dewisodd 46 y canto’r rhai a ymatebodd i'r cwestiwn hwn ‘Ddim yn gwybod’. Dywedodd 35 y cant o’r rhai a ymatebodd fod tynnu’r gofrestr etholiadol agored yn ddigon i amddiffyn etholwyr ifanc ac agored i niwed, tra dywedodd 18 y cant nad oedd hynny'n ddigon.

Cwestiwn 8

Pa fesurau diogelu ychwanegol sy'n angenrheidiol yn eich barn chi er mwyn amddiffyn pleidleiswyr ifanc a bregus?

21.         Cafwyd 13 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Roedd y brif thema a ddaeth i'r amlwg yn canolbwyntio ar addysg a'r angen i godi ymwybyddiaeth am y newidiadau os cânt eu gweithredu.

“Addysg a defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl ifanc i ddeall y materion.”

“Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod y gallant gofrestru'n ddienw - neu os yw'r gofrestr yn dod yn gofrestr awtomatig, gwnewch yn siŵr eich bod yn codi ymwybyddiaeth o'r gallu i wneud cais i fod yn ddienw.”

“Addysg, mae angen i bobl ifanc gael eu haddysgu mewn modd diduedd. Mae gwybodaeth ar-lein megis TikTok hefyd yn ffordd wych o hysbysu ac amddiffyn pleidleiswyr ifanc.”

 

 

Cwestiwn 9

Er y bydd y gofrestr agored yn cael ei thynnu ar gyfer etholiadau Cymru, bydd yn aros ar gyfer etholiadau Senedd y DU. Bydd angen i etholwyr yng Nghymru gofrestru o hyd i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.

Mae rhai wedi mynegi pryderon y gallai hyn arwain at ddryswch ac etholwyr cymwys yn cael eu hamddifadu, efallai, o'r hawl i bleidleisio mewn rhai etholiadau, a elwir yn ddifreiniad.

I ba raddau rydych chi'n cytuno â'r pryderon a godir?

22.        Roedd 73 y cant o’r rhai a ymatebodd i'r cwestiwn hwn yn cytuno'n gryf neu ychydig y gallai tynnu'r gofrestr agored ar gyfer etholiadau Cymru arwain at ddryswch. Roedd 10 y cant yn anghytuno'n gryf neu ychydig â'r pryderon a godwyd, tra bod 17 y cant yn cytuno nac yn anghytuno neu wedi dewis ‘Ddim yn gwybod’.

Cwestiwn 10

A allwch chi roi rhesymau dros eich ateb? (er enghraifft, pa risgiau rydych chi'n eu rhagweld?)

23.        Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion i'r cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar ddiffyg dealltwriaeth ymhlith aelodau o'r cyhoedd am ddatganoli a'r angen i godi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaethau rhwng etholiadau Cymru ac etholiadau'r DU.

“Nid yw gwybodaeth am etholiadau gwahanol ymhlith aelodau o’r cyhoedd bob amser yn wych. Os bydd cofrestru awtomatig yn mynd rhagddo, efallai y bydd pobl yn meddwl ei fod yn gymwys i bob etholiad. Dylid cadw pleidleisio mor syml â phosibl. Dw i’n deall mai nod cofrestru awtomatig yw ei gwneud yn haws, ond gallai beri dryswch os na chaiff ei gyfleu'n dda iawn.”

“Dw i'n credu bod rhai aelodau o'r cyhoedd nad ydynt eisiau deall, na chymryd yr amser i ddeall, y gwahaniaethau rhwng etholiadau'r DU ac etholiadau Cymru. Felly, bydd dryswch. Ond, dw i'n credu y dylem roi etholiadau Cymru yn gyntaf. Dyna’r hyn y byddai'r DU yn ei wneud...”

“Nid yw gwybodaeth am etholiadau gwahanol ymhlith aelodau o’r cyhoedd bob amser yn wych. Os bydd cofrestru awtomatig yn mynd rhagddo, efallai y bydd pobl yn meddwl ei fod yn gymwys i bob etholiad. Dylid cadw pleidleisio mor syml â phosibl. Dw i’n deall mai nod cofrestru awtomatig yw ei gwneud yn haws, ond gallai beri dryswch os na chaiff ei gyfleu'n dda iawn.”

“Mae'n anodd i lawer o bobl ag anableddau dysgu ddeall y broses gofrestru i bleidleisio ac, yn wir, gallai hyn ychwanegu dryswch. Mae'n ymddangos bod y buddion yn gorbwyso'r pryderon hyn, ar yr amod y caiff cynigion a newidiadau eu darparu’n hygyrch i bob pleidleisiwr, gan gynnwys mewn ffordd hawdd ei deall.”

“Mae cysondeb bob amser yn ddefnyddiol - gorau po leiaf y ffwdanu o ran pleidleisio felly a oes modd perswadio Senedd y DU i wneud yr un peth.”


Cwestiwn 11

Beth fyddai’r ffordd orau o osgoi'r risgiau hyn?

24.        Roedd y brif thema a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion i'r cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar yr angen am negeseuon clir a ddarperir trwy wahanol gyfryngau.

“Ymgyrch gyfathrebu gryf iawn. Sicrhau bod gwybodaeth ar gael ac yn glir iawn mewn gorsafoedd pleidleisio.”

“Negeseuon clir drwy lythyr/e-bost/cyfryngau cymdeithasol/addysg.”

“Ei gwneud yn glir mewn gohebiaeth, dylai awdurdodau lleol a'r Comisiwn Etholiadol atgoffa pleidleiswyr cyn etholiadau'r DU.”

Ymgyrch gyfathrebu gydlynol, heb jargon, yn defnyddio sianeli cyfathrebu gwahanol (cyfryngau cymdeithasol, teledu, llythyr ac ati) i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn ymwybodol o'r gwahaniaethau (gan fod pobl yn dirnad gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol).

 

Cwestiwn 12

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud, os daw'r Bil yn gyfraith yng Nghymru, y bydd yn treialu cofrestru awtomatig gyda'r bwriad o gyflwyno'r model llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cynllun peilot ac, o'r herwydd, gallent ddewis gwneud hynny heb dreialu cynllun(iau) yn gyntaf.

I ba raddau rydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai Llywodraeth Cymru brofi'r model llwyddiannus cyn iddo gael ei gyflwyno?

25.       Roedd 75 y cant o’r rhai a ymatebodd i'r cwestiwn hwn yn gryf neu ychydig y dylai Llywodraeth Cymru brofi'r model llwyddiannus cyn iddo gael ei gyflwyno. Dywedodd 10 y cant eu bod yn anghytuno'n gryf neu ychydig, tra bod 15 y cant yn rhagor o’r ymatebwyr yn cytuno nac yn anghytuno neu wedi dewis ‘Ddim yn gwybod’.

Cwestiwn 13

A oes rhagor o sylwadau yr hoffech eu rhannu â ni am gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig? 

Er enghraifft, a oes unrhyw beth rydych yn meddwl y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud yn wahanol o ran cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig?

26.       Cafwyd cymysgedd o ymatebion i'r cwestiwn hwn, heb thema gyffredin yn dod i'r amlwg. Ceir cipolwg ar yr ymatebion hyn isod:-

“Ewch amdani. Mae'n hen bryd ac mae angen iddo ddigwydd i wneud Cymru yn ddemocratiaeth fodern a chynhwysol. Nid oes angen profion, treialon, na chynlluniau mawreddog - maent yn wastraff amser ac arian gwerthfawr.”

“Dw i'n meddwl y dylai Llywodraeth Cymru roi etholiadau Cymru yn gyntaf, a bwrw ymlaen â chofrestru awtomatig. Pwy a ŵyr, efallai bydd y DU yn cael ei hannog i ddilyn yr esiampl!”

"Peidiwch â gwastraffu mwy o arian. Dylai gael ei wario'n ddoeth - fel atgyweirio ffenestri ac offer sydd wedi torri mewn ysgolion.”

Demograffeg ymatebwyr yr arolwg

Pleidleisio

27.        Roedd 91 y cant o'r ymatebwyr i’r cwestiwn wedi cofrestru i bleidleisio. Nid oedd 7 y cant wedi cofrestru, tra bod yn well gan 2 y cant beidio ag ateb.

Lleoliad

28.       Nododd 58 y cant o ymatebwyr yr arolwg eu bod o Dde Cymru, gyda 28 y cant yn dod o Ogledd Cymru a 14 y cant yn dod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Rhyw

29.       Nododd 54 y cant o'r ymatebwyr eu bod yn fenywod, gyda 42 y cant yn nodi eu bod yn ddynion. Dewisodd 2 y cant 'Arall', gyda 2 y cant arall yn ffafrio peidio ag ateb.

Oedran

30.       Roedd 64 y cant  o'r ymatebwyr rhwng 25 a 64 oed, gyda 26 y cant o'r ymatebwyr 24 oed neu’n iau. Roedd 10 y cant o'r ymatebwyr yn 65 oed neu'n hŷn.

Ethnigrwydd

31.         Roedd 89 y cant o'r ymatebwyr yn disgrifio'u hunain fel 'Gwyn'. Disgrifiodd 4 y cant o'r ymatebwyr eu hunain fel 'grwpiau ethnig cymysg neu aml-ethnigrwydd’. Disgrifiodd 2 y cant o'r ymatebwyr eu hunain fel 'Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig’, gydag 1 y cant yn disgrifio'u hunain fel 'Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd'. Roedd yn well gan 4 y cant o'r ymatebwyr i'r cwestiwn hwn beidio â dweud.

Anabledd

32.        Nid oedd 81 y cant o'r ymatebwyr i'r cwestiwn hwn yn ystyried bod ganddynt anabledd. Roedd 17 y cant o'r ymatebwyr yn ystyried bod ganddynt anabledd tra roedd yn well gan 2 y cant o’r ymatebwyr beidio ag ateb.